Dacw 'Nghariad

Dacw 'Nghariad

Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan 
Tw rym di ro rym di radl didl dal 
O na bawn i yno fy hunan, 
Tw rym di ro rym di radl didl dal 
Dacw'r tŷ, a dacw'r 'sgubor; 
Dacw ddrws y beudy'n agor 
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal 
Tw rym di ro rym di radl didl dal 

Dacw’r dderwen wych ganghennog 
Tw rym di ro rym di radl didl dal 
Golwg arni sydd dra serchog 
Tw rym di ro rym di radl didl dal 
Mi arhosaf yn ei chysgod 
Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod 
Ffaldi radl didl dal… 

Dacw'r delyn, dacw'r tannau 
Tw rym di ro rym di radl didl dal 
Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae 
Tw rym di ro rym di radl didl dal 
Dacw'r feinwen hoenus fanwl 
Beth wyf well heb gael ei meddwl 
Ffaldi radl didl dal…